Unfortunately, this job is not active.

Head of Numeracy - Croesyceiliog School

Between £50,000 and £65,000 Per Month

Job description

Rhowch eich meini prawf chwilio isod a dewiswch Chwilio. I chwilio am fwy nag un eitem mewn rhestr, dewiswch y meini prawf niferus y mae eu hangen gan ddefnyddio'r allweddau 'Ctrl' neu 'Shift' ar y bysellfwrdd.

Pennaeth Rhifedd a Phennaeth Cyswllt Mathemateg - Ysgol Croesceiliog

Mae manylion gofynion y swydd isod. Ble mae'n berthnasol, mae'r sgiliau, cymwysterau ac aelodaeth gofynnol am y swydd yma wedi eu cynnwys hefyd.

Manylion swydd

Oriau cytundebol 32.5

Sail Amser llawn

Categori/math o swydd Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Ysgol

Mae Croesyceiliog yn chwilio am Bennaeth Rhifedd a Phennaeth Mathemateg Cyswllt sy'n llawn ysbrydoliaeth, i ymuno â'n tîm ymroddgar o weithwyr proffesiynol. Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o gyfadran gref a phrofiadol mewn ysgol uchelgeisiol dros ben sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ddarparu pob cyfle i ddisgyblion berfformio ar eu gorau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygu Rhifedd ar draws y cwricwlwm, safonau academaidd ac addysgu a chynnydd a chanlyniadau disgyblion o fewn y maes dysgu a phrofiad fel y'i diffinnir yn y Cwricwlwm i Gymru newydd, 2022.

O fewn ein tîm Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg, Rhifedd a Thechnoleg Ddigidol mae yna gyfoeth o brofiad, arfer da ac ymrwymiad sy'n ymfalchïo mewn ymdrechu am ragoriaeth a safonau uchel. Mae gennym un Arweinydd Cyfadran sy'n arwain adran Mathemateg a Rhifedd yn ogystal â Thechnoleg Ddigidol a thîm o ddeg athro mathemateg arbenigol. Rydyn ni'n credu mewn cydweithio a rhannu syniadau i ddatblygu arbenigedd proffesiynol i wella profiadau dysgu ein disgyblion.

Rydyn ni'n chwilio am gydweithiwr brwdfrydig, arloesol ac ymroddgar i gyfrannu'n gadarnhaol at y Gyfadran Mathemateg, Rhifedd a Thechnoleg Ddigidol, sydd wedi ymrwymo i ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n credu'n gryf ym mhotensial mathemategol pob plentyn. Rydyn ni'n credu'n llwyr, os nad yw disgybl yn gallu gwneud rhywbeth, yna mae hynny naill ai oherwydd nad oes ganddynt y wybodaeth angenrheidiol, neu nad ydynt wedi cael yr esboniad cywir eto. Ein nod yng Nghroesyceiliog yw trwytho ein disgyblion yn ein hethos o 'Ddysgu, Parch ac Uchelgais' fel y gall pob unigolyn ifanc gyflawni ei botensial llawn.

Mae ein hadroddiad diweddar yn dilyn arolygiad Estyn ar gael yma .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proces sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu dod i gyfweliad.

#J-18808-Ljbffr

Extra information

Status
Closed
Education Level
Secondary School
Location
Croesyceiliog
Type of Contract
Full-time jobs
Salary indication
Between £50,000 and £65,000 Per Month
Profession type
Management
Full UK/EU driving license preferred
No
Car Preferred
No
Must be eligible to work in the EU
No
Cover Letter Required
No
Languages
English

Management Jobs | Full-time jobs | Secondary School